Y Brifysgol ar y Bryn - Bangor

Mae myfyrwyr a’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi gwrthdaro tros bolisi ffioedd Llywodraeth y Cynulliad.

Mae’r Torïaid yn dweud y bydd prifysgolion Cymru’n diodde’ wrth i’r Llywodraeth yng Nghaerdydd dalu £50 miliwn i gynnal myfyrwyr Cymreig yn Lloegr.

Ond, yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru, fe allen nhw fod ar eu hennill.

Y  cefndir

Roedd y BBC wedi cael rhagor o fanylion am y trefniant ffioedd ar ôl gwneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Roedd y rheiny’n dangos y byddai helpu myfyrwyr o Gymru i dalu ffioedd ym mhrifysgolion Lloegr yn costio hyd at £50 miliwn y flwyddyn.

Mae hynny oherwydd penderfyniad y Llywodraeth yng Nghaerdydd i gadw ffioedd myfyrwyr o Gymru ar y lefel bresennol, tua £3,000.

Fe fydd y Llywodraeth wedyn yn talu’r gwahaniaeth rhwng hynny a’r pris y bydd prifysgolion yn ei godi. Fe allai hynny godi i gymaint â £9,000 y flwyddyn.

Y ddadl

Fe ddywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg yng Nghymru, Paul Davies, eu bod nhw wedi bod yn anhapus o’r dechrau gyda pholisi Llywodraeth y Cynulliad.

Roedd yna fwlch cyllid eisoes rhwng prifysgolion yn Lloegr a Chymru ac fe fyddai’r trefniant newydd yn gwneud hynny’n waeth, meddai wrth Radio Wales.

Ond ar yr un rhaglen, fe ddywedodd Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru bod y polisi’n ffafriol iawn i fyfyrwyr o Gymru ac fe fyddai ffioedd gan fyfyrwyr o’r tu allan yn gwneud iawn am y £50 miliwn.

“Dewis Llywodraeth Westminster” oedd codi’r ffioedd ar gyfer myfyrwyr Lloegr, meddai Katie Dalton.