Jane Hutt - 'ein harian ni'
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyhuddo’r Llywodraeth yn San Steffan o geisio mynd â £385 miliwn oddi ar bobol Cymru.

Fe ddatgelodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, bod y Trysorlys yn gwrthod gadael i Lywodraeth y Cynulliad gadw arian sydd tros ben ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae sefyllfa debyg yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd ac fe fydd y tair llywodraeth yn awr yn rhoi pwysau ar y cyd ar y Trysorlys gyda llythyr yn uniongyrchol at y Canghellor.

“Ein harian ni yw hwn, wedi ei roi i Gymru gan y Senedd,” meddai. “Fe ddylai gael ei ddefnyddio i gefnogi buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac i gefnogi’r adfywiad economaidd, yn hytrach na chael ei gadw gan y Trysorlys.”

Ar 11 Ionawr yr ysgrifennodd Jane Hutt at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, a dim ond ddydd Mercher y daeth yr ateb, yn gwrthod rhyddhau’r arian.

Yn ôl Jane Hutt, roedd y Trysorlys hefyd wedi gwrthod rhoi caniatâd iddi hi gyhoeddi’r llythyrau na hyd yn oed ei ddangos i Aelodau’r Cynulliad.