Llys y Goron yr Wyddgrug
Dedfrydwyd dwy chwaer ifanc i garchar heddiw ar ôl i lys eu cael yn euog o lofruddio eu tad.

Cafodd eu tad Antoni Robinson, 61, o Hen Golwyn, ei drywanu 15 o weithiau wrth i’w ferched a’u cariadon geisio dwyn cynnwys ei sêff.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug bod  Ashleigh Robinson, 19, a’i chwaer Holly, 16, wedi “cefnogi ac annog” yr ymosodiad ym mis Gorffennaf y llynedd.

Roedd eu cariadon Gordon Harding, 20, a Sacha Roberts, 19, hefyd yn euog o lofruddiaeth.

Dywedodd yr erlynydd Andrew Thomas fod Gordon Harding wedi trywanu Antoni Robinson dro ar ôl tro â chyllell.

Cafodd y pedwar eu dedfrydu gan yr Ustus Griffith Williams heddiw. Dywedodd fod y chwiorydd wedi bradychu eu tad “fel Jiwdas” a bod y trosedd yn un “drygionus”.

Clywodd Ashleigh Robinson a Gordon Harding, o Stryd Llanelian Road, Hen Golwyn, y byddwn nhw’n treulio o leiaf 22 mlynedd dan glo.

Fe wnaeth Holly Robinson lefain wrth iddi hi a Sacha Roberts o Woodland Road West, Bae Colwyn, gael eu carcharu am o leiaf 18 mlynedd a 20 mlynedd yr un.