(Llun Cymdeithas yr Iaith)
Bydd ymgyrchydd iaith yn mynd o flaen y llys fory am ei ran mewn protest ynglýn a “diffygion” y Mesur Iaith Gymraeg

Roedd Jamie Bevan o Ferthyr Tudful wedi chwistrellu’r gair “hawliau” ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Dywedodd bod ei achos llys ei hyn yn brawf nad ydi’r mesur iaith yn mynd yn ddigon pell er mwyn rhoi hawliau i siaradwyr yr iaith.

“Hyd yn oed yn y llefydd lle rydym eisoes yn disgwyl gwasanaeth Cymraeg, mae’r gwasanaeth yn dameidiog, yn anghyson, yn aml rhaid gofyn a gofyn amdano, ac weithiau nid yw’n bodoli o gwbl,” meddai.

“Enghraifft berffaith yw fy achos llys fy hun. Wrth geisio cysylltu â’r llys yng Nghaerdydd i drafod y manylion, fe fues i’n treulio dros hanner awr ar y ffon, yn cael fy mhasio o un person i’r nesaf, o un rhif i’r llall, dim ond i ddarganfod nad oedd neb ar gael i ddelio â gy nghais yn Gymraeg. A hynny ar ôl dewis gwasanaeth Cymraeg.”

Ymgyrch newydd

Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio ymgyrch newydd o’r enw “Hawliau i’r Gymraeg” yfory.

Nod yr ymgyrch fydd galw am ddeddfwriaeth iaith newydd yn y Cynulliad nesaf.

“Nid yw’r mesur iaith a basiwyd gan y Cynulliad cyn y Nadolig yn rhoi hawliau iaith i bobl Cymru,” meddai Catrin Dafydd, llefarydd y grŵp Hawliau i’r Gymraeg.

“Er hyn, cefnogwyd gwelliant i’r perwyl hwnnw gan 18 Aelod Cynulliad o dair plaid wahanol, ac roedd hynny’n gam hynod arwyddocaol.

“Ein bwriad yw galw am deddfwriaeth a fydd yn grymuso dinasyddion drwy sicrhau hawliau i bobl weld, clywed, dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau, ledled Cymru,” meddai.