Neuadd Sir Caerfyrddin
Mae Golwg360 yn cael ar ddeall mai Llafur fydd yn arwain Cyngor Sir Gar yn sgil etholiadau lleol 2012, ar ôl iddyn nhw sicrhau cefnogaeth gan gynghorwyr Annibynnol.

Fel yn 2008, Plaid Cymru oedd y blaid fwyaf yn yr etholiadau yr wythnos ddiwethaf ond mae’n debyg fod clymblaid wedi ei ffurfio yn Sir Gaerfyrddin a fydd yn eu cadw nhw oddi ar y cabinet unwaith eto.

Llafur yw’r ail grŵp mwyaf ar y cyngor erbyn hyn, gyda 23 o gynghorwyr, tra bod gan y grŵp Annibynnol 21. Meryl Gravell o’r grŵp Annibynnol a fu’n arwain y cyngor am yr 13 mlynedd diwethaf ond mae ei gafael ar yr awenau ymhell o fod yn sicr.

Nid yw swydd Kevin Madge, arweinydd Llafur yn Sir Gaerfyrddin, yn ddiogel ychwaith, ac  fe fydd Plaid Lafur Sir Gaerfyrddin yn cyfarfod nos Lun er mwyn ethol arweinydd y blaid ac arweinydd posib Cyngor Sir Caerfyrddin am y bum mlynedd nesaf.

Clymbleidio yn digwydd ym mhob man’

Yn ôl Cynghorydd Llafur Gorslas, Terry Davies, mae’r grŵp Llafur wedi cwrdd wythnos yma gyda’r Annibynwyr a Phlaid Cymru, ac fe fydd cynghorwyr Llafur yn penderfynu ar eu cynlluniau terfynol brynhawn fory.

“Ry’n ni nôl i beth oedden ni bedair blynedd nol, gyda 23 cynghorydd. Ro’n i’n sylweddoli yn ystod yr ymgyrch fod pethau o’n plaid ni,” meddai.

“Mae clymbleidio’n digwydd ym mhob man – edrychwch chi ar San Steffan nawr, ac ychydig nôl roedd Plaid Cymru a’r grŵp Annibynnol mewn clymblaid yn Sir Gâr. Mae’r pethau ma’n digwydd.”