Andrew Craig McNaughton
Mae’r heddlu yn galw am gymorth y cyhoedd er mwyn dod o hyd i ddyn 20 oed sydd wedi mynd ar goll o’i gartref ym Mhwllheli.

Cysylltodd teulu Andrew Craig McNaughton gyda’r heddlu er mwyn dweud ei fod ar goll ar 14 Ionawr.

Cysylltodd gyda’i deulu ganol mis Ionawr, gan ddweud ei  fod yn ardal Birmingham, ond does dim son amdano ers hynny.

Mae’r heddlu yn galw arno i gysylltu â nhw er mwyn dweud ei fod yn saff.

Gwelwyd Andrew, sy’n cael ei alw’n Craig, am y tro olaf ar 12 Ionawr. Mae tua chwe throedfedd o daldra ac roedd yn gwisgo cot dywyll sy’n cynnwys hwdi, trainers glas a jîns glas golau ar y pryd.

Dylai unrhyw un sy’n gwybod lle mae Andrew gysylltu â’r heddlu ar 101 (yng Nghymru) neu 0845 6071001.