San Ffolant
Yr acen Gymreig yw’r drydedd ar restr acenion fwyaf rhamantus Ynysoedd Prydain, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.

Ond roedd newyddion drwg i bobol Birmingham – yn ôl yr arolwg a gyhoeddwyd cyn Dydd San Ffolant yr acen ‘Brummie’ yw’r lleiaf ramantus.

Acen Iwerddon a’r Alban oedd gyntaf ac ail, ond mae acen Manceinion a Lerpwl ar waelod y rhestr.

Y tu allan i Ynysoedd Prydain yr acen Eidalaidd sydd fwyaf rhamantus, yn ôl bron i hanner y menywod a holwyd.

Arferion drwg

Yn ôl yr arolwg, anadl drewllyd oedd y nodwedd lleiaf rhamantus, yn ôl dynion a merched. Yn ail ar restr y dynion oedd diffyg synnwyr digrifwch, ac roedd merched yn gochel rhag anfoesgarwch.

Roedd traean o’r rheini a holwyd yn credu mai tafarndai oedd y lle gorau i gyfarfod cariad newydd. Y we oedd yn ail ar y rhestr, ac wedyn y swyddfa gwaith.

Yn ôl yr arolwg gan gwmni Disaronno fe fydd hanner merched Prydain yn anwybyddu Dydd San Ffolant, ond roedd un ym mhob chwech dyn yn ystyried dod a’u perthynas i ben os nad oedd eu partner nhw’n gwneud unrhyw ymdrech ddydd Llun.