Mae Heddlu Gwent wedi apelio i’r cyhoedd am fwy o wybodaeth i ganfod llofrudd Nikitta Grender.
Fe ddywedodd llefarydd eu bod eisoes wedi derbyn galwadau a gwybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd ond maen nhw eisiau rhagor gan bobol leol a ffrindiau’r ferch 19 oed.
“Yn benodol r’yn ni’n awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un oedd yn adnabod Nikitta, a oedd yn yr un cylch o ffrindiau a’r rhai hynny oedd â chysylltiad â hi – yn ddynion a menywod- eu rai a oedd wedi treulio amser gyda hi ac efallai wedi bod i’w fflat”
Daeth diffoddwyr tân o hyd i gorff Nikitta Grender ar ôl tân yn ei fflat ar ystad Broadmead Park, yn Llyswyry, Casnewydd, am 7.50 fore Sadwrn.
Symudiadau Nikitta
Mae’r heddlu bellach yn eitha’ sicr o lawer o symudiadau’r ferch a oedd o fewn pythefnos i eni ei babi cynta’:
- Roedd hi wedi cyrraedd yn ôl i’w fflat tua 1 fore Sadwrn ar ôl galw mewn caffi McDonalds.
- Roedd y larwm tân wedi canu tua phedair awr yn ddiweddarach.
- Roedd Nikitta Grender wedi cael ei thrywanu cyn i’r tân gael ei gynnau.
Mae’r heddlu’n awr eisiau llenwi’r bwlch rhwng yr amser pan gyrhaeddodd y fflat a’r amser pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw.
“R’yn ni eisiau gwybod lle’r oedd Nikitta ac a oedd yna unrhyw ymwelwyr i’r fflat neu weithgaredd drwgdybus yn yr ardal rhwng 1am a 5.30am,” meddai’r llefarydd.
Rhagor o blismyn ar y stryd
Mae’r heddlu a swyddogion cymunedol yn cynnal patrolau ychwanegol er mwyn tawelu meddyliau trigolion lleol.
Mae’r heddlu hefyd yn dosbarthu taflenni a defnyddio technoleg bluetooth i apelio am wybodaeth gan bobol yn ardal Boradmead Park.
Mae arbenigwyr fforensig yn parhau i archwilio eitemau o’r fflat, ac mae’r heddlu’n pori trwy luniau camerâu cylch cyfyng.
Mae 50 o heddweision yn gweithio ar yr achos erbyn hyn ac maen nhw’n cynnal ymchwiliadau o dŷ i dŷ yn yr ardal.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 01443 865562 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111.