Y cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, yn lansio un arall o gynlluniau Cydcoed
Mae angen i’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru wella’i ffordd o reoli grantiau, meddai pwyllgor yn y Cynulliad ar ôl helynt tros goedwig gymunedol yn Sir Benfro.

Roedd cyfanswm o fwy na £738,000 wedi ei roi at gynllun Coed Ffynone a’r Cilgwyn ger Boncath ond, yn ôl pobol leol, gan gynnwys Cyngor Bro Manordeifi, doedd dim ymgynghori wedi bod gyda nhw ac roedd llawer o’r coed wedi cael eu distrywio.

Yn awr, mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad wedi gwneud rhes o argymhellion, a hynny’n dilyn adroddiad beirniadol arall gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Yn ôl y Pwyllgor, roedd yr helynt yn codi amheuon am ddulliau Comisiwn Coedwigaeth Cymru o reoli grantiau – roedd cynllun Boncath yn rhan o raglen Cydcoed gwerth £18 miliwn a ddaeth i ben yn 2008.

Yr argymhellion

Ymhlith yr argymhellion mae’r Pwyllgor yn dweud bod rhaid i’r Comisiwn:

  • Ddweud yn glir beth yn union sy’n cael ei ddisgwyl o ran ymgynghori â’r cyhoedd er mwyn diogel buddiannau pobol leol.
  • Ddangos ei fod yn defnyddio dulliau priodol o reoli prosiectau, eu bod yn monitro cynigion o ran eu lles i “bwrs y wlad!
  • Wneud yn siŵr bod y grant iawn yn cael ei dalu ar sail y ffigurau oedd wedi eu cytuno ac yn unol ag amodau a thelerau’r grant.
  • Wneud yn siŵr fod gan bobol sy’n cael grantiau sgiliau coedwigaeth neu ymrwymiad i’w meithrin cyn cael cymorth i brynu coedydd.
  • Wneud yn siŵr bod gwybodaeth am geiswyr grant yn gywir – o ran geirda a phrofiad.

Y cefndir

Roedd cwmni o’r enw Calon yn Tyfu wedi cael £502,000 i brynu Coed Ffynone a’r Cilgwyn ym Medi 2006 a £236,000 arall yn ddiweddarach ar gyfer gwaith yno.

Er ei fod yn gwmni nad oedd yn rhannu elw, dim ond tri o bobol oedd yn gyfarwyddwyr ac roedd pobol leol yn flin nad oedd ymgynghori wedi bod gyda nhw.

Roedd trigolion yr ardal hefyd yn cwyno bod llawer o’r coed wedi eu torri mewn ffordd ansensitif a gwaith yn cael ei roi i gwmnïau o’r tu allan.

Wrth roi’r grant, doedd y Comisiwn ddim wedi cadw’r hawl i rwystro’r coedydd rhag cael eu gwerthu.