Mae’r Post Brenhinol wedi dweud nad oedd dewis gyda nhw ond codi prisiau stampiau, wrth i bris stamp dosbarth cyntaf godi heddiw i 60c ac ail ddosbarth i 50c.

Ar hyn o bryd 46c a 36c yw prisiau’r ddau stamp. Dywedodd llefarydd ar ran y Post Brenhinol nad oedd codi prisiau yn benderfyniad hawdd ond bod colledion diweddar wedi gwneud y penderfyniad yn anochel.

“Mae’r Post Brenhinol wedi gwneud colled o £1 biliwn yn ei fusnes craidd, gan gynnwys pacedi, dros y pedair blwyddyn ariannol ddiwethaf. Nid yw hyn yn gynaliadwy i unrhyw fusnes.”

Dywed y Post Brenhinol ei fod yn darparu un o’r gwasanaethau post gorau yn Ewrop, a bod y stamp ail ddosbarth yw’r un rhataf yn Ewrop ar gyfer llythyron rhwng 51 a 100 gram.

Mae’r Post Brenhinol yn cludo tua 59 miliwn o eitemau yn ddyddiol. Yn nifer o swyddfeydd post bu pobol yn prynu pentwr o stampiau cyn i’r prisiau uwch ddod i rym ond dywed y Post Brenhinol nad oes prinder stampiau heddiw.