Jane Hutt
Mae £5 miliwn ychwanegol wedi’i roi i gefnogi cynllun sy’n cefnogi gweithwyr yn y sector cyhoeddus sy’n colli eu swyddi.

Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am ganolfan gyswllt, lle bydd y cyflogwyr a’r gweithwyr yn gallu troi am gyngor.

Mae’n rhan o’r system Adapt sydd wedi ei chreu gan Lywodraeth y Cynulliad i fod yn debyg i gynllun React yn y sector preifat. Mae’n cynnig cyngor a hyfforddiant.

“Mae’r rhain yn amseroedd sy’n her i ni i gyd wrth i ni ymateb i’r dirwasgiad a’r trefniant ariannol anodda’ ers datganoli,” meddai’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt.

“Dyma bobol gyda sgiliau a phrofiad a rhaid i ni wneud ein gorau i sicrhau eu bod yn parhau i chwarae eu rhan yn adferiad economaidd Cymru.”