Chris Bryant
Mae Aelod Seneddol y Rhondda wedi cwyno ei fod ef a’i gyd-aelodau yn cael gormod o wyliau.

 Roedd Chris Bryant yn ymateb i’r son y bydd Aelodau Seneddol yn mwynhau wythnos o wyliau o ddydd Mawrth nesaf ymlaen.

Bydd hyn yn golygu bod y gwleidyddion wedi treulio deg diwrnod llawn yn ôl yn San Steffan ers eu 19 diwrnod o wyliau dros y Pasg.

Wedi’r wythynos o wyliau mi fyddan nhw’n dychwelyd ar Fai’r 9fed ar gyfer Araith y Frenhines.

Ond wedi naw niwrnod arall mi fydd yr Aelodau Seneddol i ffwrdd eto am 17 diwrnod dros gyfnod y Sulgwyn a Jiwbili’r Frenhines.

Fis wedyn fe fyddan nhw’n cychwyn ar chwe wythnos o wyliau dros yr Haf.

“Mae’n gwneud i fy ngwaed ferwi. Pam na fedrwn ni fod yn trafod prif faterion y dydd?” meddai Chris Bryant.

Mae’r holl wyliau yn “syfrdanol” yn ôl Cynghrair y Trethdalwyr, ond mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin Sir George Young yn mynnu fod yr wythnos ychwanegol o wyliau yn “rhesymol”.