Llys y Goron yr Wyddgrug
Cawyd ail ferch yn euog o lofruddio ei thad heddiw.
Cafodd Antoni Robinson, 61, ei drywanu 15 o weithiau wrth iddo gysgu yn ei wely yn Hen Golwyn.
Roedd Ashleigh Robinson, 19, a’i chwaer 16 oed, Holly, wedi cynllunio i ymosod ar eu tad ar y cyd gyda’u cariadon.
Y nod oedd cael gafael ar £900 oedd wedi ei gloi yn ei sêff, clywodd Llys Ynadon yr Wyddgrug.
Heddiw penderfynodd rheithgor bod Holly a’i chariad Sacha Roberts, o Woodland Road West, Bae Colwyn, yn euog o lofruddiaeth.
Cafwyd Ashleigh Robinson a’i chariad Gordon Harding, 20, o Stryd Llanelian, Hen Golwyn, yn euog ddydd Gwener.
Dywedodd yr Ustus Griffith Williams y bydd y pedwar yn cael eu dedfrydu yfory.
Y cefndir
Digwyddodd y llofruddiaeth ar ôl i berthynas 25 mlynedd Antoni Robinson gyda Joanne Barr, mam Ashleigh a Holly Robinson, ddod i ben.
Yn oriau man y bore 7 Gorffennaf y llynedd llwyddodd y pedwar i fynd i mewn i gartref Antoni Robinson wrth iddo gysgu.
Dywedodd yr erlynydd Andrew Thomas mai’r cynllun oedd mynd i ystafell wely Antoni Robinson wrth iddo gysgu a chymryd cynnwys ei sêff.
“Arian, gemau ac eiddo,” oedd y cymhelliad, meddai Andrew Thomas.
Clywodd y rheithgor fod gan Antoni Robinson glwyfau ar ei wyneb, ei wddf a’i gorff, gan gynnwys pedwar clwyf ar ei gefn.
Cafodd y gwythiennau ar ei wddf eu torri ac fe fu farw o fewn munudau i’r ymosodiad, meddai Andrew Thomas.
Ar ôl yr ymosodiad gyrrodd Ashleigh Robinson neges destun at ei mam, Joanne Barr, gan ddweud bod ei thad wedi marw, clywodd y llys.
“Digwyddodd pethau, dydi o ddim yn bodoli rhagor. Sori Mam. xxxx,” meddai’r neges.