Machynlleth
Mae rhai o fusnesau tref Machynlleth yn dioddef oherwydd gwaith ar bibellau dwr, goleuadau traffig a thywydd garw.

Cafodd rhan o Heol Maengwyn ei gau’r wythnos diwethaf, ar ôl i lechi ddisgyn oddi ar do adeilad gan anafu un person.

Mae’r ffordd yn agored heddiw – ond mae goleuadau traffig mewn tri man gwahanol wrth i awdurdodau lleol osod pibelli dŵr.

Yn ogystal a hynny roedd llifogydd eto dros y penwythnos ac yn ôl rhai o’r busnesau mae’r cyfan wedi dechrau effeithio ar eu helw.

“Mae’r dref yn edrych yn ddifrifol ar hyn o bryd,” meddai Joyce Price, sy’n gweithio yn siop Ann’s Ladies Fashions ar Heol Maengwyn, wrth Golwg 360.

“Mae yna dri o oleuadau traffig yma. Un ar stryd Maengwyn, yr ail ar Heol Pentrerhedyn a’r trydydd ar Heol Penrallt

“Mae’n ofnadwy yma. Mae’r siop wedi cael wythnos dlawd a dydw i heb weld yr un enaid byw fore heddiw.

“Mae hi’n aeaf arnon ni  –  mae’n rhaid i ni gofio hynny,” meddai. “Ond ychydig iawn o bobol sydd wedi dod i mewn i’r siop. Mae popeth yn eu cadw nhw draw.

“Daeth llechi oddi ar do adeilad yr wythnos diwethaf ac maen nhw’n gwneud gwaith ar bibellau dŵr newydd y tu allan.”

‘Ffwdan’

Dywedodd Sandie Beasley, perchennog siop gwallt Sandies ar Heol Maengwyn wrth Golwg360 bod y problemau parhaus yn “ffwdan”.

“Mae wedi achosi llawer o ffwdan er nad ydi o wedi effeithio arna i yn ormodol o ran busnes,” meddai.

“Ond, mae pobl yn gallu bod yn hwyr i’w apwyntiadau.”

Awgrymodd Bethan Humphreys, sy’n gweithio yng Nghaffi a Bwyty Maengwyn, “nad yw’r sefyllfa gynddrwg rŵan a’r diwrnodau diwethaf”.

“Mae wedi bod yn dipyn o niwsans i fusnesau, ond mae ceir yn gallu mynd yn iawn ar hyd y ffordd – er bod gweithwyr ymhobman.

“Mae hefyd yn bosibl parcio ar rai rhannau o’r brif stryd, felly mae pethau’n well nag y maen nhw wedi bod.”