Ysgol Rydal (Llun o wefan yr ysgol)
Mae un o brif ysgolion bonedd Cymru’n bwriadu cael gwared ar wersi Cymraeg gorfodol i blant yn ei hadran uwchradd.

O ganlyniad, mae ymgyrchydd iaith wedi galw ar i bobol Cymru “dynnu eu plant” o Ysgol Rydal Penrhos ger Bae Colwyn.

Oherwydd eu bod yn rhagweld diffyg ariannol yn y dyfodol – mae’r ysgol yn ystyried “torri gwersi Cymraeg” o’r cwricwlwm i ddisgyblion blwyddyn saith ac wyth, meddai Prifathro’r ysgol wrth Golwg360.

Fe ddywedodd Patrick Lee-Browne fod yr ysgol yn edrych ar ffyrdd amrywiol o “arbed arian” sy’n cynnwys torri cost gwersi yn ogystal â rhai penawdau eraill fel argraffu a dyblygu a chostau bws mini.

Ar hyn o bryd, mae Cymraeg yn bwnc gorfodol yn yr ysgol iau ac i flynyddoedd saith ac wyth yn yr ysgol uwchradd ac yn ddewis posib ar gyfer disgyblion TGAU a lefel A.

O dan y cynlluniau newydd, byddai gwersi Cymraeg i flynyddoedd saith ac wyth yn cael eu torri.

‘Clybiau a gweithgareddau’ Cymraeg

“Mae gynnon ni nifer o ddisgyblion o deuluoedd Cymraeg yma,” meddai Patrick Lee-Browne wrth Golwg360 cyn dweud na fyddai’r ddarpariaeth yn dod i ben yn llwyr.

Byddai’r ysgol yn dal i gynnig y pwnc y tu allan i wersi arferol, meddai, a byddai “clybiau a gweithgareddau Cymraeg” ar  gael i ddisgyblion.

“Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr 11 oed yn astudio 16 phwnc gan gynnwys pedair iaith – Saesneg, Cymraeg, Lladin a Ffrangeg,” meddai cyn sôn ei fod wedi ymgynghori gyda rhieni cyn argymell y toriadau.

“Mae’r ysgol yn edrych ar dorri gwersi Lladin i’r un oed hefyd,” dywedodd cyn pwysleisio fod yr ysgol wedi “ymrwymo i wneud popeth fedrwn ni i gadw’r diwylliant Gymraeg yn yr ysgol”.

Fe ddywedodd hefyd ei fod yn “mynd drwy ymgynghoriad ar hyn o bryd” i atal colledion swyddi. Ond mae’n mynnu bod yr ysgol yn cadw o fewn telerau ei gorddrafft ac nad oes problemau llif arian.

‘Trefn Addysg ein hunain’

“Dw i’n cynghori pobl Cymru i beidio â gyrru eu plant yno – nes ei bod hi’n dirywio ac yna’n mynd allan o fodolaeth,” meddai’r ymgyrchydd iaith, Ffred Ffransis.

“Dyna gewch chi os ydach chi’n  anfon eich plant i ysgol breifat – yn lle bod yn rhan o’r gymuned. Does dim rhaid i ysgolion preifat ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol.

“Maen nhw’n rhoi sylw tocenistaidd i’r iaith.”