Corff dynol yn dangos y galon
Mae system gryfach o roi organau dynol yng Nghymru wedi dod gam yn nes wrth i un o bwyllgorau’r Cynulliad gefnogi’r egwyddor.

Fe fyddai’n golygu bod doctoriaid yn cael cymryd organau pobol sy’n byw a marw yng Nghymru, ar yr amod nad ydyn nhw wedi dweud fel arall.

Ond fe fyddai disgwyl i’r meddygon ofyn am hawl perthnasau hefyd, adeg y farwolaeth.

Bellach, mae un o bwyllgorau deddfu’r Cynulliad wedi cefnogi bwriad y Llywodraeth i ofyn am bwerau deddfu yn y maes.

Fe fydd y Gorchymyn Deddfu – yr eLCO – hefyd yn cael ei ystyried gan y Cynulliad cyfan cyn ei anfon at Ysgrifennydd Cymru.

Gwrthwynebiad

Ond, fe ddywedodd y Cadeirydd, Rosemary Butler, bod yna wrthwynebiad hefyd ymhlith cyrff a mudiadau a roddodd dystiolaeth ac ymhlith aelodau’r pwyllgor ei hun.

“Oherwydd natur deimladwy a sensitif rhoi organau, un o’n hargymhellion yw bod eisiau datblygu rhaglen addysg gyhoeddus, yn rhan o’r ddeddfwriaeth,” meddai.

Ond roedden nhw wedi gwrthod pryderon rhai mudiadau y byddai creu trefn wahanol yng Nghymru a Lloegr yn creu “dryswch”.

Yn  ôl y pwyllgor, fe fyddai’r mesur yng Nghymru yn gorwedd ochr yn ochr â’r drefn Brydeinig lle mae pobol yn mynegi eu hawydd i roi organau.