Map yn dangos Llandrillo ac afon Dyfrdwy
Mae heddlu’n dal i ymchwilio i union amgylchiadau marwolaeth dyn lleol mewn llifogydd rhwng Y Bala a Chorwen.
Fe gafodd y gwasanaethau achub eu galw toc cyn hanner awr wedi deg bore ddoe ar ôl cael galwad i ddweud fod car wedi ei ddal mewn dŵr gerllaw Llandrillo.
Erbyn cyrraedd, doedd neb yn y car ond, yn ddiweddarach, fe ddaeth yr achubwyr o hyd i gorff dyn gerllaw.
Roedd y digwyddiad ar ffordd gefn y B4401 sy’n dilyn afon Dyfrdwy ac yn mynd trwy bentrefi Llandderfel, Llandrillo a Cynwyd.
Rhybudd gan y gwasanaethau
Er nad yw hi’n glir eto beth yn union ddigwyddodd, mae’r gwasanaeth tân wedi rhybuddio gyrwyr rhag mentro trwy lifogydd.
“O ddod ar draws llifogydd lle mae unrhyw amheuaeth o gwbl a allwch chi gael car trwodd ai peidio, mae’n well peidio â cheisio mynd trwodd o gwbl,” meddai Mark Kassab o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae llifogydd yn parhau i greu trafferthion mewn rhannau o ganolbarth a gogledd Cymru, gyda yr A5 wedi bod ynghau ger Corwen tros nos, ond roedd yn agored erbyn y bore.
Mae ffordd yr A487 hefyd ynghau ym Mhont ar Ddyfi ym Machynlleth ynghyd â Heol Maen Gwyn ynghanol y dref, oherwydd peryg o adeiladau.
Mae problemau hefyd ar ffordd yr A458 rhwng Llanfair Caereinion a’r Trallwng a’r A495 trwy Meifod.