Llun:gwefan Bae Colwyn
Mae cais am £4.9 miliwn er mwyn adfer pier Bae Colwyn wedi cael ei wrthod gan Gronfa Treftadaeth y Loteri heddiw.

Roedd Cyngor Bwrdeistref Bae Colwyn wedi gobeithio denu’r buddsoddiad fel rhan o raglen i adfer tref Bae Colwyn drwyddi draw.

Ond heddiw dywedodd Cronfa Treftadaeth y Loteri na fyddai’r dref yn derbyn y buddsoddiad o £4.9 miliwn, er gwaetha’ addewid y cais, oherwydd y nifer fawr o geisiadau oedd yn cystadlu â nhw am fuddsoddiad y tro hwn.

Mae pier Bae Colwyn wedi bod ar gau ers 2008, ond ar 28 Mawrth eleni fe hawliwyd y pier gan y Cyngor wedi i Lywodraeth Cymru ei brynu oddi wrth ystâd y Goron.

Dywedodd Cyngor Conwy eu bod nhw wedi cymryd perchnogaeth dros y strwythur 112 mlwydd oed fel rhan o gynllun adnewyddu ar gyfer y dref gyfan.

Er gwaetha’r penderfyniad heddiw, mae Cyngor Conwy wedi dweud y byddan nhw’n parhau i edrych am ffyrdd i adfer ac atgyweirio’r pier.

Wrth drafod cynlluniau’r Cyngor yr wythnos diwethaf, dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor, Iwan Davies, fod y Cyngor yn credu bod y pier yn “ran allweddol o lan môr y dref ac yn borth rhwng canol y dref a’r promenâd.”

Yn ôl y Cyngor, roedd adnewyddu’r Pier yn holl bwysig i’r cynlluniau adfywio.

“Gyda buddsoddiad sylweddol ar draws y dref, ac ar lan y môr yn arbennig, mae’n holl bwysig bod y pier yn dod yn rhan ganolog o’r cynlluniau hynny,” meddai Iwan Davies.

Ond, mae’r penderfyniad heddiw yn gryn ergyd i’r cynlluniau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor heddiw eu bod nhw’n “siomedig” ond eu bod yn gobeithio y byddai modd ail-gyflwyno cais am rywfaint o fuddsoddiad yn y dyfodol.

“Yr hyn sy’n bwysig yw bod y Cyngor yn rheoli’r pier, fel bod golwg rhywbeth sy’n boen mawr i’r llygad yn gallu cael ei wella,” meddai’r Cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri  eu bod nhw eisoes wedi buddsoddi £8.5 miliwn yng Nghonwy yn barod, ac er gwrthod y cais heddiw, y byddai’r trafodaethau yn parhau.

“Fe fyddwn ni’n cyfarfod â chynrychiolwyr y Cyngor cyn hir i drafod y ffordd gorau ymlaen ar gyfer y prosiect,” meddai Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru.

Y Loteri’n ‘cefnogi cymunedau’

Daw’r newyddion heddiw wrth i’r Gronfa Loteri Fawr gynnig grantiau gwerth hyd at £50,000 i sefydlu mentrau busnes cymunedol ar draws Cymru.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dweud eu bod nhw’n awyddus i gefnogi mentrau cymunedol fydd yn dod â “bywyd newydd i’w hardaloedd.” Mae saith o gymunedau ar draws Cymru eisoes wedi derbyn y gefnogaeth ariannol hon.

Mae’r arian yn rhan o gynllun ‘Pentref SOS’ y Gronfa Loteri Fawr, sy’n ceisio cefnogi adfywio gwledig ar draws y DU, a “chefnogi cymunedau gwledig a allai fod yn profi anawsterau gyda materion fel unigedd, poblogaethau sy’n heneiddio, a chyfleusterau lleol yn cau.”

Mae grantiau rhwng £10,000 a £50,000 yn cael eu cynnig i gymunedau sydd â phoblogaeth o dan 3,000 o bobol – ac maen nhw’n cael eu gwobrwyo am gynlluniau menter fydd yn ateb angen lleol neu’n gwella gwasanaethau ar gyfer pobol leol.