Dominic Walker (Llun: Keith Moseley)
Mae un o esgobion Eglwys Cymru yn pryderu fod gwrachod wedi bod yn torri i mewn i eglwys a mynwentydd er mwyn cynnal defodau duon.

Dywedodd Esgob Mynwy, Dominic Walker, ei fod wedi gweld cynnydd yn nefnydd y gelfyddyd ddu droes y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanegodd ei fod ar sawl achlysur ers cael ei benodi naw mlynedd yn ôl wedi gorfod mynd i’r afael â’r “grwpiau dieflig” hyn.

Dywedodd wrth bapur newydd y Western Mail bod y rhan fwyaf yn ceisio defnyddio hud “er lles, er mwyn iacháu, neu ennyn cariad”.

Ond roedd y diddordeb cynyddol mewn paganiaeth wedi arwain at gynnydd mewn dewiniaeth ddu.

“Mae dewiniaid yn dweud eu bod nhw’n grefydd hynafol sy’n rhoi cydraddoldeb i ddynion a merched,” meddai.

“Ond mae’n bosib defnyddio’r grymoedd hudol hyn er mwyn gwneud drygioni.

“Maen nhw’n melltithio pobol ac yn ceisio defnyddio eu grymoedd er mwyn eu budd eu hunain.

“Weithiau mae’n bosib gweld fod rhywun wedi bod yn cynnal defod yn y fynwent. Mae’n anodd gwybod os mai fandaliaid sydd wrthi, plant yn chwarae, neu wrachod.

“Rydw i wedi gweld sawl achos â fy llygaid fy hun dros y naw mlynedd ddiwethaf.”