Symud Bwrdd yr Iaith i'w gartref newydd
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ei symud i’w gartref newydd yn amgueddfa werin Cymru, Sain Ffagan, heddiw.

Daeth gwaith Bwrdd yr Iaith i ben ddydd Gwener. Bydd y gamp o hybu’r iaith yn cael ei rannu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd Iaith newydd, Meri Huws.

Cafodd y Bwrdd ei chreu 18 mlynedd yn ôl, yn 1993. Dywedodd curadur yr amgueddfa werin ei fod yn grair hanesyddol yr oedd angen ei ddiogelu.

“Mae’r Bwrdd bellach wedi ei ddatgymalu, darn wrth ddarn, a’i ail-adeiladu yn ein pentref yn Sain Ffagan,” meddai Ffwg Salesbury. “Mae’r bwrdd hefyd wedi ei ychwanegu at restr henebion Cadw.”

Penderfynodd yr Amgueddfa ailadeiladu’r Bwrdd fel y byddai wedi ymddangos yn 1993.

“Roedd rywfaint o waith cynnal a chadw ar y Bwrdd,” meddai Ffwg Salesbury. “Roedd un o goesau’r Bwrdd wedi dod yn rhydd ac roedd sawl darn o wm cnoi wedi eu glynu arno dros y blynyddoedd.

“Mae’r Bwrdd yn adlewyrchu hanes cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol y cyfnod ac yn ychwanegiad pwysig i gasgliad Sain Ffagan.”

Fe fydd yn ymuno â byrddau hanesyddol eraill yn yr amgueddfa, gan gynnwys bwrdd crwn Arthur, bwrdd snwcer Ray Reardon, a’r 22 bwrdd iechyd a ddiddymwyd yn 2009.