Fabrice Muamba
Fe allai myfyriwr wynebu cyfnod yn y carchar heddiw am ysgogi casineb hiliol ar ôl iddo wneud sylwadau ar wefan gymdeithasol Twitter am y pêl-droediwr Fabrice Muamba pan gafodd  ei daro’n wael yn ystod gêm.

Roedd Liam Stacey, 21, wedi corddi’r dyfroedd gyda’i sylwadau am chwaraewr Bolton Wanderers ar ôl iddo gael trawiad ar y galon mewn gêm gwpan yn erbyn Tottenham Hotspur ar 17 Mawrth.

Roedd miloedd o gefnogwyr pêl-droed yn gwylio wrth i Fabrice Muamba gwympo i’r llawr yn ystod y gêm.

Fe dderbyniodd yr heddlu nifer o gwynion ynglŷn â sylwadau Liam Stacey a chafodd y myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ei arestio’n fuan wedyn.

Yn Llys Ynadon Abertawe wythnos ddiwethaf roedd Stacey wedi cyfaddef ysgogi casineb hiliol. Cafodd ei ryddhau ar fechniaeth amodol.

Yn y cyfamser mae Fabrice Muamba wedi dechrau gwella ers iddo gael trawiad ar y galon 10 niwrnod yn ôl – mae’n parhau yn yr uned ofal dwys yn yr ysbyty ac mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.