Gwefan chwaraeon y BBC
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’n penderfyniad i gau gwasanaeth chwaraeon Cymraeg ar-lein y BBC.

Dywedodd llefarydd ar ran y gymdeithas, Menna Machreth, bod y ddadl yn “hollol annerbyniol o ystyried y diffyg buddsoddiad sydd wedi bod yn y gwasanaeth”.

Cadarnhaodd y BBC ddoe y byddai’r gwasanaeth ar-lein Cymraeg yn dod i ben wrth i’w safle newyddion wynebu toriadau o 25% a cholli 360 o swyddi.

Mewn datganiad dywedodd y gorfforaeth ei bod yn “glir bod galw am gynnwys chwaraeon ar-lein yn yr iaith Gymraeg yn isel iawn.”

‘Ar ei hôl hi’

“Mae’r safle yn amlwg ymhell ar ei hôl hi yn dechnegol o’i gymharu’r â’r safle Saesneg, a does ’na ddim hyrwyddo wedi bod o gwbl,” meddai Menna Machreth.

“Os ewch chi i safle chwaraeon Saesneg y BBC does yna ddim sôn am fodolaeth gwasanaeth Cymraeg. Does dim rhyfedd bod y ffigyrau yn isel os yw’r BBC wedi gwneud job mor dda o’i guddio.

“Mae hyn yn profi mai trychineb fyddai iddyn nhw draflyncu S4C hefyd, gan fod y cyfryngau newydd yn mynd i fod yn hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg.”

Ychwanegodd mai dyma “dechrau toriadau eithafol i’r gwasanaeth ar-lein Cymraeg” a bod y Gymdeithas “ar ddeall fod rhagor o doriadau i’r adran ar-lein i ddod”.

“Mae Radio Cymru eisoes wedi gorfod cwtogi oriau oherwydd y toriadau. Sut allwn ni ymddiried y BBC i ofalu am S4C yn iawn os mai dyma fel maen nhw’n trin y gwasanaethau Cymraeg sydd ganddyn nhw’n barod?”

Ymateb

Dywedodd colofnydd chwaraeon cylchgrawn Golwg, Phil Stead, ei fod yn teimlo “nad yw cynnwys gwefan chwaraeon Cymraeg y BBC yn ddigon da”.

“Dydyn nhw ddim yn cyfro uwch gynghrair Pêl droed Cymru a does ganddyn nhw ddim hawliau i ddangos y gemau cenedlaethol,” meddai Phil Stead.

“Mae yna fwy o stwff Cymraeg ar wefan Sgorio.

“Problem y BBC ydi nad ydyn nhw eisiau talu am yr hawliau i ddangos gemau pêl droed Cenedlaethol ac Uwch Gynghrair Cymru – maen nhw’n ystyried rygbi yn llawer pwysicach i Gymru.

“Fedri di ddim ei roi o’i fyny a disgwyl i bobl fynd yno – mae’n rhaid iddyn nhw ryngweithio. Maen nhw wedi bod yn araf iawn wrth gymryd mantais o’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai.