Marc Phillips
Mae Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu’r gwariant ar yr iaith Gymraeg i fynd i’r afael â’r sialensau sy’n wynebu’r iaith.

Mewn sgwrs â Golwg360, dywedodd Marc Phillips, Cadeirydd y Bwrdd, bod angen dyblu’r gwariant ar yr iaith Gymraeg dros gyfnod o bedair i bum mlynedd er mwyn wynebu’r her o drosglwyddo’r Gymraeg yn iaith y cartref, caffael yr iaith, a defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.

“Mae gwledydd sy’n wynebu sialensau tebyg iawn i ni yng Nghymru yn gwario llawer mwy nag y’n ni. Mae’r swm sy’n cael ei wario ar yr iaith Gymraeg yn isel iawn mewn gwirionedd,” meddai Marc Phillips, sy’n lansio Adolygiad o Fwrdd yr Iaith Gymraeg 1993-2012 heddiw yng Nghaerdydd.

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dod i ben ar 31 Mawrth a bydd ei gyfrifoldebau’n trosglwyddo i’r Comisiynydd Iaith a Llywodraeth Cymru.

Dywed Marc Phillips mai cofnod fydd yr adolygiad a fydd yn cael ei drosglwyddo i’r Comisiynydd newydd a Llywodraeth y Cynulliad “iddyn nhw gael elwa ar brofiad y Bwrdd”.

“Does dim amheuaeth fod Bwrdd yr Iaith wedi bod yn llwyddiant o fewn y cyfyngiadau oedd ganddo,” ychwanegodd. “Ei wendid oedd ei anallu i orfodi cydymffurfiaeth, ond mae wedi gosod sylfeini cadarn a mae’n bryd nawr symud ymlaen at gorff cryfach.”

‘Ewch i lefel bellach’

Ar bwnc grym y Comisiynydd Iaith newydd, dywedodd Marc Phillips: “Mater cyfansoddiadol yw pwerau’r Comisiynydd, ac nid yw llawer o gyrff yn atebol i Gaerdydd. Mae angen cryn berswâd ar rai o gyrff y Goron i ddefnyddio’r iaith ac mae rhai ohonynt wedi bod yn hynod esgeulus wrth wneud hynny.

“O hyn allan bydd y Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol dros y Gymraeg, a mae’n gyfle i’r Gymraeg dreiddio i holl waith y Cynulliad. Mae’n gyfle iddi gael ei thrin nid fel atodiad ond fel rhywbeth creiddiol. Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol ddiamwys a mae hynna’n newid yr hinsawdd ac ymagweddiad pobl ati.

“Bydd hi’n hyf ohona’i i gynnig cyngor i Meri Huws [y Comisiynydd Iaith newydd] ond fe ddyweda i hyn – dysgwch wrth brofiad Bwrdd yr Iaith, ac ewch i lefel bellach.”