Cafodd gyrrwr ei gludo i’r ysbyty bore ma yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar draffordd yr M4.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng cyffordd 41 a 42 ger Llansawel tua 8.10am bore ma.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod gyrrwr car Ford Focus arian wedi ei gludo i’r ysbyty ond mae’n debyg nad yw wedi ei anafu’n ddifrifol.

Roedd fan Mercedes wen, car Audi A3 coch a fan Renault wen, hefyd yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad.

Cafodd un lôn ei chau gan achosi tagfeydd traffig bore ma. Mae’r lonydd i gyd wedi ail-agor erbyn hyn.