Injan dân
Mae’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn ymchwilio ar ôl i dân orfodi tua 100 o bobl i ffoi eu cartrefi yn Sir y Fflint.
Mae diffoddwyr tân o’r Wyddgrug, Y Rhyl, Treffynnon, Wrecsam a Glannau Dyfrdwy yn ymladd y fflamau yng Nghlwb Cymdeithasol Shotton Lane.
Fe gafodd y gwasanaeth tân eu galw i’r adeilad yn Shotton ychydig wedi 4am ac mae’r trigolion lleol wedi eu symud i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Mae Uwch-arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Dave Owens yn bresennol yn y man ar Lôn Shotton ac yn cydweithio gyda swyddogion a Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru.
Dyw Heddlu Gogledd Cymru ddim wedi cadarnhau eto a oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio ar y pryd ai peidio.
Mae adroddiadau bod Cymdeithas Fwslimaidd Sir y Fflint wedi cael derbyn cynnig i brynu’r adeilad, ac yn bwriadu ei droi’n ganolfan amlddiwylliannol.
Dywedodd yr heddlu nad oes yna unrhyw adroddiadau am anafiadau hyd yn hyn.
Fe fydd Heddlu Gogledd Cymru yn rhyddhau mwy o fanylion ynglŷn â’r tân yn hwyrach ymlaen heddiw.