Logo Cofrestru'r Cyngor Proffesiynau Iechyd
Fe gafodd ffysiotherapydd 87 oed ei wahardd rhag gweithio am weddill ei oes ar ôl ei gael yn euog o aflonyddu ar gleifion benywaidd oedrannus.

Fe glywodd pwyllgor disgyblu Cyngor y Proffesiynau Iechyd bod Dennis Williams o Aberogwr wedi bod yn cusanu a chyffwrdd yn anweddus mewn cleifion a oedd yn rhy wael i’w atal.

Roedd y gweithiwr rhan-amser wedi gwadu’r pum honiad yn ei erbyn, heb roi tystiolaeth yn y gwrandawiad.

Roedd y pum cyhuddiad yn ymwneud â’i waith mewn cartref gofal o’r enw Baglan Lodge ym Mhort Talbot tros y cyfnod rhwng 2003 a 2009.

Ar un adeg, roedd wedi ei arestio gan yr heddlu ond fe benderfynodd y gwasanaeth erlyn i beidio â dod ag achos.

Roedd perthnasau rhai o’r cleifion ymhlith y bobol a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor. Fe benderfynodd hwnnw fod Dennis Williams wedi mynd yn groes i safonau ei broffesiwn a budd ei gleifion.