Athro wrth ei waith
Mae undeb athrawon wedi galw am drafodaethau gyda’r Gweinidog Addysg yn dilyn ei gyhoeddiad am gyfres o fesurau i geisio gwella perfformiad ysgolion yng Nghymru.

Fe gyhoeddodd Leighton Andrews y bydd ysgolion yn cael eu graddio yn ôl eu perfformiad ac y bydd ysgolion sydd yn methu yn cael eu cau, gyda disgwyl i ragor o ysgolion ffederaleiddio o dan un prifathro.

Fe ddywedodd hefyd y byddai’n cyflwyno prawf darllen ar unwaith i bob plentyn a phrawf llythrennedd hefyd erbyn 2012-13.

“Un o’r pethe pwysig nawr yw bod angen trafodaeth gydag undebau a phobl sy’n cynrychioli athrawon am y mesurau hyn,” meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC wrth roi ei hymateb i gyhoeddiad y Gweinidog.

“Rhaid sicrhau bod yr hyn sy’n digwydd am fod o fudd i blant ac yn weithredol mewn ysgolion,” meddai wrth Golwg360.

“Dydyn ni ddim moyn mynd at y pwynt lle rydan ni’n dysgu plant ar gyfer prawf er mwyn cael canlyniadau.

“Ond, mae profi i weld beth yw lefel plant yn fwy diagnostig” meddai cyn dweud y gallai hyn helpu athrawon â’r hyn mae’r plentyn “angen ei wneud i symud ymlaen.”

‘Hyfforddiant i athrawon’

Ond, fe ddywedodd fod UCAC yn “croesawu hyfforddiant parhaus i athrawon yn eu swyddi.”

“Mae’n bwysig bod nhw’n parhau i ddysgu sgiliau a hyfforddi,” meddai Elaine Edwards cyn egluro bod hyfforddiant o’r fath yn “rhywbeth sy’n gallu ysgogi athrawon.”

“Mae’n rhaid aros nawr i weld beth yw manylion y cynllun darllen – bydd cwestiynau am y profion, fel pwy sy’n eu cynllunio nhw…” meddai.

Roedd y Gweinidog, Leighton Andrews, yn ymateb i adroddiad am brofion rhyngwladol PISA a osododd ddisgyblion Cymru’n isel ar restr y gwledydd mewn meysydd allweddol.

Roedd adroddiad pennaeth y corff arolygu Estyn yng Nghymru wedi tynnu sylw at rai diffygion, yn arbennig ym maes llythrennedd ac o ran asesu cynnydd plant.