Fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, heddiw ei bod hi’n “optimistaidd” ynglŷn â chynllun i drydaneiddio’r brif reilffordd o Lundain i Abertawe.

Fe wnaeth ei sylwadau yn ystod Cwestiynau Cymru yn y senedd heddiw ar ôl i arweinydd seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, alw ar i Lywodraeth Prydain dderbyn y cyfrifoldeb o dalu am y gwaith.

Fe gadarnhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan mai cyfrifoldeb llywodraeth San Steffan yn unig yw trydaneiddio lein reilffordd y Great Western i Abertawe, ac ychwanegodd fod y prosiect yn “allweddol” i hybu economi Cymru.

Fe ddywedodd fod Swyddfa Cymru wedi bod wrthi’n lobïo’r Adran Drafnidiaeth i gymeradwyo’r prosiect.

“Dw i’n parhau’n optimistaidd am ganlyniad da,” meddai.

Cyfrifoldeb

Roedd Elfyn Llwyd wedi beirniadu awgrymiadau a wnaed yn Llundain y dylai Llywodraeth y Cynulliad dalu er mwyn arbed costau i’r Adran Drafnidiaeth.

“Mae ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cadarnhau heddiw mai San Steffan yn unig sydd yn penderfynu tynged y prosiect £1bn i drydaneiddio lein reilffordd y Great Western o Lundain i Abertawe,” meddai Elfyn Llwyd wrth groesawu sylwadau Cheryl Gillan.

“Dros y misoedd diwethaf, cafwyd awgrymiadau gan yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain y dylai Llywodraeth Cymru dalu yn rhannol am drydaneiddio’r rheilffordd yng Nghymru.

“All Llywodraeth Cymru wneud dim am lein y Great Western. Os yw pwerau yn cael eu datganoli i Gymru, yna rhaid datganoli’r arian yn ogystal i wneud y gwaith yn iawn.

“Mae Cymru ar ei cholled eisoes, a chyda’r toriadau enfawr sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth San Steffan, allwn ni ddim fforddio talu am gyfrifoldebau nad ydym ni i fod i’w cyllido.”