Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyflwyno cyfres o fesurau pendant i geisio gwella perfformiad ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys profion darllen cenedlaethol i bob plentyn.
Fe fydd ysgolion yn cael eu graddio yn ôl eu perfformiad ac ysgolion sydd yn methu yn cael eu cau ac mae disgwyl i ragor o ysgolion ffederaleiddio o dan un prifathro.
Fe fydd awdurdodau addysg sy’n gwrthod cydweithio i gynnig gwasanaethau cefnogi ysgolion yn cael eu cosbi’n ariannol.
Adroddiad rhyngwladol
Roedd y Gweinidog, Leighton Andrews, yn ymateb i adroddiad am brofion rhyngwladol PISA a osododd ddisgyblion Cymru’n isel ar restr y gwledydd mewn meysydd allweddol.
Roedd adroddiad pennaeth y corff arolygu Estyn yng Nghymru wedi tynnu sylw at rai diffygion, yn arbennig ym maes llythrennedd ac o ran asesu cynnydd plant.
Fe ddywedodd Leighton Andrews mewn datganiad ysgrifenedig heddiw y byddai’n cyflwyno prawf darllen ar unwaith i bob plentyn a phrawf llythrennedd hefyd erbyn 2012-13.
Fe fydd hefyd yn ystyried newid y ffordd y mae athrawon yn cael eu hyfforddi, gan gynnwys mwy o sylw i reoli ymddygiad disgyblion.
Un datblygiad arall fydd Uned Safonau “i arwain perfformiad a chynnig her” yn genedlaethol.
Llythrennedd
Ond roedd y pwyslais mwya’ ar ddysgu sylfaenol, gyda rhybudd na fyddai’r Cyfnod Sylfaen newydd i blant bach rhwng 3 a 7 oed yn cael tanseilio gallu plant i ddarllen a sgrifennu – mae hwnnw’n pwysleisio dysgu trwy chwarae,