Twitter
Mae teclyn newydd wedi ei lansio sy’n dewis a dethol negeseuon Cymraeg ar twitter a’u casglu yn yr un lle.

Yn ogystal â rhestru bob neges Gymraeg ar Twitter mae gwefan cy.umap.eu yn creu rhestr o’r pynciau llosg sy’n cael eu trafod drwy’r iaith ar hyn o bryd.

Datblygwyd y wefan gan Luistxo Fernandez, sy’n rhedeg cwmni Code Syntax yng ngwlad y Basg, a Rhodri ap Dyfrig o Aberystwyth.

“Roedd Luis Fernandez wedi sefydlu gwefan Basgeg ac un Gatalaneg debyg yn barod,” meddai Rhodri ap Dyfrig o Aberystwyth wrth Golwg360.

“Fe gysylltodd gyda fi i ofyn a oeddwn i eisiau datblygu un yn y Gymraeg.”

‘Dim gofod Cymraeg’

“Mae yna lot o bobl yn defnyddio Twitter erbyn hyn ond does dim gofod Cymraeg arno,” meddai Rhodri ap Dyfrig.

“Mae umap yn dangos beth sy’n cael ei drafod drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn ffordd o ddod o hyd i bobl ddifyr i’w dilyn.”

Dywedodd ei fod yn gobeithio datblygu’r wefan ymhellach, a chynyddu nifer y negeseuon Cymraeg y mae’r wefan yn dod o hyd iddynt.

“Doedd yna na ddim lot o bobl yn trydar drwy gyfrwng y Gymraeg o gwbl i ddechrau – roedd o fel trydar mewn gwagle.

“Ond, erbyn hyn mae yna dros 650 o bobl wedi cofrestru ar y wefan.

“Mae’r Twitter Basgeg yn debyg iawn i ni. Mae tua 1,300 wedi cofrestru ar y wefan,” meddai.

Fe gafodd y wefan ei datgelu am y tro cyntaf Ddydd Sadwrn yng nghynhadledd Hacio’r Iaith yn Aberystwyth.