Y Tywydd
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi lansio rhagolygon Cymraeg ar ei gwefan.

Bydd rhannau sylweddol o’r rhagolygon ar wefan Invent y Swyddfa Dywydd yn darparu’r rhagolygon diweddaraf yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

Gobaith y Swyddfa Dywydd yw “y bydd y datblygiad yn gwneud eu gwasanaeth yn fwy hygyrch a pherthnasol i siaradwyr Cymraeg”.

Daw’r lansiad yn fuan wedi i S4C lansio eu gwasanaeth iaith Gymraeg eu hunain fis diwethaf.

“Rydym wrth ein bodd ein bod ni’n gallu darparu rhagolygon Cymraeg bellach. Mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn dilyn cyhoeddi’r Ddyfais Tywydd Gymraeg ddiwedd y llynedd,” meddai Iain Forsyth, Pennaeth Gwasanaeth Tywydd Cyhoeddus y Swyddfa Dywydd.

Mae’r dyfais yn galluogi gwefannau i gynnwys rhagolygon y Swyddfa Dywydd ar eu tudalen nau eu hunain.

Yn ogystal â darparu rhagolygon Cymraeg, mae’r Swyddfa Dywydd yn darparu rhagolygon Gaeleg hefyd.