Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Fe fydd noson o adloniant am ddim yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd nos Sadwrn i ddathlu dyfodiad y flwyddyn newydd.

Bydd dathliadau nos Galan yn cychwyn ar y Llwyfan Cerddoriaeth Fyw yn y Ganolfan Ddinesig o 8.30pm ymlaen, gydag Utter Madness fel y prif fand – a bydd y gerddoriaeth fyw yn para tan 12.20am.

Uchafbwynt y noson fydd sioe o dân gwyllt ganol nos, a fydd hefyd i’w weld ar S4C mewn rhaglen arbennig i groesawu’r flwyddyn newydd.

Yn cyflwyno’r rhaglen fyw Blwyddyn Newydd Dda: Digwyddiadau 11 bydd Mari Grug a Morgan Jones – gan gyfri’r eiliadau olaf cyn hanner nos o’r wyl aeaf.

Fe fydd Elin Fflur hefyd yn rhoi blas o firi dathliadau’r Calan yn Nant Gwrtheyrn. Oddi yno fe ddaw cerddoriaeth fyw gan Dewi Pws a’r band Radwm a Geraint Lovgreen a’r Enw Da.  

 Fe fydd Blwyddyn Newydd Dda: Digwyddiadau 11 yn glo ar noson o adloniant sy’n dechrau am 19:00 gydag Wedi 7: Nos Galan. Fe fydd Angharad Mair a thîm Wedi 3 ac Wedi 7 yn cyflwyno uchafbwyntiau o’r cyfresi cylchgrawn yn ystod 2011.

 Yn arwain at y rhaglen fyw o Ŵyl y Gaeaf, bydd rhai o sêr tîm rygbi Cymru yn ymuno â chriw Jonathan. Fe fydd y gwesteion yn cynnwys Shane Williams, George North, Jonathan Davies, Rhys Priestland, Scott Williams, Lloyd Williams, Ryan Jones a Robin McBryde – heb anghofio ymddangosiad arbennig gan Madam Rygbi.

Bws am ddim

Fe fydd gwasanaeth bws am ddim i mewn ac allan o ganol Caerdydd o 7.30pm tan 2 y bore o dan nawdd y cwmni yswiriant Admiral, sydd hefyd yn brif noddwyr y Llawr Sglefrio Awyr Agored yng Ngwyl y Gaeaf.

 Meddai’r Cynghorydd Nigel Howells, yr Aelod Cabinet ar Gyngor Caerdydd gyda chyfrifoldeb dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant:

“Gall dathlu’r flwyddyn newydd fod yn ddrud, ond mae gan Gaerdydd noson berffaith ar eich cyfer, sy’n rhad ac am ddim. Mae Calennig yn ddigwyddiad y gall y teulu cyfan fwynhau, ac rwy’n falch gweld bod Admiral wedi noddi’r bws Nos Galan am Ddim eleni eto, sy’n ei gwneud hi’n hawdd a diogel i bobl gyrraedd adref.”

 Trwy gydol Nos Galan, bydd Gŵyl y Gaeaf yn dal yn agored, gyda chyfle i sglefrio dros hanner nos ar Lawr Sglefrio Awyr Agored Admiral, a bydd ffair draddodiadol a Reid Seren BT Infinity hefyd yn agored tan 1am.