Gorsaf Caerdydd
Fe ddylai ardal Caerdydd a’r Cymoedd gael rhwydwaith Metro o wasanaethau tram, meddai adroddiad newydd.

Fe fyddai’n golygu gwario £2.5 biliwn ond, yn ôl yr awduron, fe allai roi hwb i’r economi a thorri ar y grant i wasanaethau rheilffordd yng Nghymru.

Mae’r adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi gan Bartneriaeth Busnes Caerdydd a’r Sefydliad Materion Cymreig, yn argymell creu math o system Metro ar gyfer y 100,000 o bobol sy’n mynd i mewn i’r brifddinas bob dydd.

Yr argymhellion

Ymhlith y prif argymhellion, mae gwasanaethau tram:

• Beddau a Creigiau i ganol Caerdydd a thrwodd i’r Bae.
• Rhwng Maerdy, Llantrisant a Phontypridd.
• Rhwng Penarth, Y Barri, Maes Awyr Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
• Dwnnel Hafren i Gaerdydd, gan aros mewn gorsafoedd llai.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell creu gwasanaeth bws ar draws Cymoedd y dwyrain, o Bontypridd i Drecelyn.

‘Hwb i’r economi’

Y nod fyddai gallu teithio o Flaenau’r Cymoedd i lawr i Gaerdydd o fewn 40 munud gyda gwasanaethau cyson yn ôl ac ymlaen.

Er y byddai’r cynllun yn costio £2.5 biliwn, dyw hynny’n ddim yn ôl yr awduron o’i gymharu â’r £74 biliwn sydd i fodi gael ei wario ar gwpwl o gynlluniau mawr yn Lloegr erbyn 2014.

Ond, er mwyn i Lywodraeth Cymru gael yr arian i weithredu, fe fyddai’n rhaid i’r rheilffyrdd gael eu datganoli’n llwyr ac fe fyddai’n dibynnu ar drydaneiddio’r lein o Lundain i Abertawe.

Y fantais, yn ôl yr adroddiad, fyddai hwb i economi’r De-ddwyrain a’r posibilrwydd o wasanaeth rheilffyrdd mwy proffidiol, gydag angen am lai o grant i’r gwasanaethau presennol.

Sylwadau’r Bartneriaeth

“O amgylch y byd, mae llwyddiant economïau dinasoedd a’u rhanbarthau’n dibynnu fwy fwy ar systemau trafnidiaeth mawr o safon uchel sy’n gweithio o fewn y rhanbarth a rhwng rhanbarthau,” meddai David Stevens, Cyfarwyddwr Partneriaeth Busnes Caerdydd.

“Byddai gweledigaeth newydd, gyda strategaeth economaidd unedig ar gyfer holl Ranbarth Dinas Caerdydd yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at wella economi Cymru.

“O ganlyniad, dylai fod yn flaenoriaeth i lywodraethau Caerdydd a San Steffabm ac i awdurdodau lleol a chymunedau busnes.”