Un o beiriannau cwmni Sany
“Pacio’n bagiau, mynd i China a chnocio drysau,” – dyna sut mae dau o Geredigion yn disgrifio’r agwedd oedd ei angen er mwyn sicrhau cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd i’w cwmni peiriannau bach yn Ffos y Ffin, ger Aberaeron.

Nid ar chwarae bach y llwyddodd John Lewis a Rhodri Morgan, y ddau gyfarwyddwr ar gwmni Tramor Cyf, i sicrhau cytundeb arbennig gwerth miliynau o bunnoedd i werthu peiriannau cwmni Sany yn y Deyrnas Unedig. Fe allai’r cytundeb greu o leia 20 o swyddi newydd.

“Fe wnaethon ni ddechrau trwy wneud ymchwil ein hunain i’r farchnad,” meddai Rhodri Morgan, sy’n dod o gefndir yn y gyfraith, ond sydd wedi bod â diddordeb brwd mewn peiriannau erioed.

“Mae economi Prydain ac Ewrop wedi bod yn edrych yn ddrwg ers tro nawr – ac roedden ni eisiau gwarchod ein hunain yn erbyn hynny.”

Beth wnaeth y ddau ddarganfod o’u hymchwil oedd bod cysylltiadau posib i’w gwneud â marchnadoedd Asia, a’i bod hi’n adeg da i “gynnig rhywbeth gwahanol” yn ôl ym Mhrydain.

Ar ôl ymweld â degau o gwmniau yn China yn ystod sawl taith i’r wlad, cafodd y ddau eu cyfeirio at gwmni Sany, sy’n cynhyrchu peiriannau o bob math ar gyfer y diwydiant adeiladu – o graeniau i beiriannau tarmacio. “Ma’ nhw’n neud bron iawn popeth,” medd Rhodri Morgan, gan gynnwys tyrbeini gwynt.

Ond nid amrywiaeth y cynnyrch oedd wedi denu cwmni Tramor Cyf, ond safon y cynnyrch.

“Mae safon eu peiriannau nhw yn ail i ddim byd arall yn y farchnad,” meddai Rhodri Morgan, sy’n dweud bod hynny’n bwysig iawn wrth ateb gofynion llym y rheoliadau er mwyn gwerthu cynnyrch yn Ewrop.

Mae Sany ei hun yn gwmni rhyngwladol sy’n cyflogi 70,000 o bobol ar draws y byd, ac eisoes yn rhedeg safleoedd cynhyrchu mewn gwledydd fel yr Almaen, India, Indonesia a Brasil.

Creu swyddi

Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn cyflogi pedwar o weithwyr, yn ychwanegol at y ddau gyfarwyddwr. Ond maen nhw’n hyderus y bydd y cytundeb newydd yn golygu creu o leia’ 20 o swyddi newydd ar eu safle yn Ffos-y-Ffin.

Daw’r newyddion da hyn ar ddiwrnod digon digalon i lefelau diweithdra yng Nghymru, sydd wedi codi eto’r mis hyn i 9.1%.

Ond yn ôl Rhodri Morgan, dyma’r math o fentrau sydd angen i Gymru eu hystyried yn yr hinsawdd economaidd presennol.

“Mae’n bwysig ar y funud i’r Deyrnas Unedig ddechrau cynhyrchu eto,” meddai. “Ac ma’ China mor bell ymlaen o ran infrastructure – gallen ni ddysgu lot wrthyn nhw.”

Mae’r cyfarwyddwyr yn credu y dylai busnesau Cymru ddechrau ystyried o ddifrif y posibiliadau o ehangu eu gorwelion tuag at y dwyrain. “Fyswn i’n annog cwmniau i fynd draw i feithrin cysylltiadau yno,” meddai Rhodri Morgan.

Ac er gwaetha’r gwahaniaethau diwylliannol, mae e o’r farn fod gan Gymru a China mwy yn gyffredin nag y mae pobol yn sylweddoli.

“Beth wnaethon ni ddarganfod oedd bod ffordd y Cheiniaid o weithio – roedd eu meddylfryd nhw’n debyg iawn i ni’r Cymry, sef bod yn rhaid gweithio’n galed,” meddai.

Mae Rhodri Morgan a John Lewis, cyfarwyddwyr cwmni Tramor Cyf, bellach yn ceisio creu pontydd rhwng diwydiannau yng Nghymru a China, ac maen nhw eisoes wedi cynnal cyfarfodydd rhwng y Cynulliad a chynrychiolwyr o gwmni Sany.

“Fe wnaethon ni gysylltu â’r Cynulliad er mwyn hybu’n busnes ni, ond hefyd i hybu’r cysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a China,” meddai Rhodri Morgan.

“Mae angen i ni ddechrau bod yn greadigol yn ein hagwedd at fusnes.”