Bydd y ddau goleg addysg bellach Coleg Menai a Choleg Llandrillo Cymru yn uno’r flwyddyn nesaf gan greu sefydliad fydd yn gwasanaethu 34,000 o fyfyrwyr bob blwyddyn, mewn 14 campws ar draws Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae’r uno wedi cael sêl bendith fyrddau rheoli’r colegau a’r gobaith yw y byddan nhw’n dod at ei gilydd yn swyddogol ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Glyn Jones, Pennaeth presennol Coleg Penfro,  fydd Prif Weithredwr y coleg newydd. Dywedodd nad oedd yn rhagweld colli unrhyw swyddi’n orfodol ymysg y 2,000 aelod o staff sy’n gweithio i’r colegau presennol.

Mi fyddai cyfuno’r ddau goleg yn creu corff newydd cryfach i wynebu’r torri ar wario cyhoeddus, meddai.