Kirsty Williams
Mae’r gwrthbleidiau wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o dorri addewidion a cholli rheolaeth o’r Gwasanaeth Iechyd heddiw, wedi iddi ddod i’r amlwg fod amseroedd aros am driniaethau yn dal i gynyddu.

Tra’n cydnabod yr angen i wella’r sefyllfa, mae’r Llywodraeth yn nodi eu bod am wario £65miliwn yn ychwanegol ar geisio lleihau’r rhestrau aros.

Mewn neges glir i Lywodraeth Cymru fod y gwrthbleidiau’n cadw llygad barcud ar amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd, mae’r Lib Dems a’r Ceidwadwyr wedi beirniadu’r ffigyrau aros diweddaraf, a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ddoe.

 Mae’r ffaith bod 600 o bobol nawr yn gorfod aros dros 14 wythnos am Therapi Arbenigol yng Nghymru wedi cael ei feirniadu’n chwyrn gan y Lib Dems, a hynny ar ôl i’r ffigyrau ddangos cynnydd mis ar ôl mis ers etholiad mis Mai.

Ym mis Medi eleni, roedd 361 o gleifion yn gorfod disgwyl dros 14 wythnos am driniaeth – sef cynnydd o 67% yn y niferoedd sy’n aros, a hynny o fewn mis.

 “Mae angen i’r Gweinidog Iechyd fynd i’r afael â’r sefyllfa er mwyn atal amseroedd aros fynd allan o bob rheolaeth,” meddai Arweinydd y Lib Dems Kirsty Williams.

Mae’r gwasanaethau meddygol dan sylw yn cynnwys triniaeth ffysiotherapi a therapi iaith a lleferydd.

“Os ydyn ni am gadw pobol yn iach mae angen i ni sicrhau fod cleifion sydd angen triniaeth yn cael gafael ar driniaeth ar amser,” meddai Kirsty Williams.

Y Ceidwadwyr yn condemnio…

Mae amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd hefyd wedi cynddeiriogi’r Ceidwadwyr heddiw, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y Llywodraeth wedi methu eu targed o gael amseroedd aros i lawr i 36 wythnos ym mis Hydref.

“Mis ar ôl mis mae’r targed yma’n cael ei fethu. Mis ar ôl mis mae’r Llywodreath yn eistedd yn ôl a gwneud dim,” meddai llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Yn ôl ffigyrau’r Llywodraeth, roedd cyfanswm o 389,797 o gleifion yn disgwyl dechrau ar eu triniaethau. Roedd 1.9% o’r rheiny wedi bod yn disgwyl dros 36 wythnos.

“Dros y ddeufis diwethaf, mae’r nifer o bobol sy’n aros dros 36 wythnos am driniaeth wedi aros yn ei unfan.

“Does dim gwelliant wedi bod, er gwaethaf addewid y Gweinidog Iechyd y byddai’n cael gwared ar y broblem ac yn dechrau sancsiynau yn erbyn byrddau iechyd sy’n tangyflawni.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

 “Mae’r nifer helaeth o bobl yn parhau i gael eu trin o fewn amserau targed. Wrth gymharu 2006 a 2010, mae wedi bod bron 27% o gynnydd wedi bod yn y nifer o atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu i orthopedeg, sydd bron dwbl y cynnydd canran yn y nifer cyfan o atgyfeiriadau ar gyfer bob arbenigedd. Rydym yn buddsoddi £65 miliwn i adeiladu fwy o lefydd yn y Gwasanaeth Iechyd i leihau amserau aros ar gyfer llawdriniaeth orthopedeg ac mae’r arian hwn yn dechrau gwneud gwahaniaeth. Mae gwelliant mewn perfformiad wedi bod dros y mis diwethaf ond rydym yn cydnabod fod angen gwaith pellach. Mae cynlluniau mewn lle i leihau aros mewn arbenigeddau eraill hefyd. Mae cleifion sy’n aros am therapiau nawr yn cael eu cynnwys yn ein targedau “Atgyfeiriadau i Driniaeth”, sy’n galluogi Byrddau Iechyd i weld cleifion mewn trefn blaenoriaeth clinigol. Rydym yn parhau i edrych ar ddatblygu atebion mwy cynnaliadwy ac ar opsiynau eraill ar gyfer cleifion sydd ddim angen llawdriniaeth.”