Daeth Cheryl Gillan dan y lach am fod yn 'hopeless'
Dylai gwleidyddion ddim cael eu gwobrywo am dynnu sylw atyn nhw eu hunain, yn ôl y cyn-wleidydd a’r sylwebydd Rod Richards.

Daw ei sylwadau yn sgîl y Gwobrau Gwleidyddol Cymreig gafodd eu cynnal yr wythnos hon, gyda llu o enwau cyfarwydd, a rhai llai cyfarwydd, o fyd gwleidyddol Cymru yn derbyn gwobrau am eu cyfraniad dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl y cyn-Aelod Seneddol a fu’n arweinydd ar y Ceidwadwyr yn y Cynulliad am gyfnod, mae llawer o wleidyddion yn gweithio’n galed tu ôl i’r llenni ac yn cael dim cydnabyddiaeth am eu gwaith.

“Y rhai sy’n tynnu sylw at eu hunain sy’n ennill y gwobrau mewn pethau fel hyn,” meddai Rod Richards wrth Golwg 360 heddiw.

“Ma’ lot o wleidyddion yn gwneud gwaith caled iawn tu ôl i’r llenni ac yn cael dim cydnabyddiaeth.”

Nos Fawrth daeth gwleidyddion a newyddiadurwyr ynghyd yn y cinio blynyddol yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, gyda phanel o feirniaid yn cynnwys aelodau o bleidiau gwleidyddol, noddwyr a newyddiadurwyr.

Ymhlith yr enillwyr roedd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a gipiodd wobr ‘Gwleidydd y Flwyddyn’. Yn ôl y beirniaid, dyma wleidydd oedd wedi cyflawni llawer wrth rewi ffioedd myfyrwyr, cyflwyno system bandio ysgolion a diwygio addysg uwch Cymru.

Laugh out loud – dyna ddweda i am hynny,” meddai Rod Richards heddiw. “Gyda chyflwr addysg yng Nghymru, a’r cafflo sy’ ’di bod ym Mhrifysgol Cymru, a nawr CBAC. Mae’n anghredadwy.”

Yn ei farn ef, yrAelod Cynulliad Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, Angela Burns, yw’r gwleidydd gorau o blith Aelodau’r Cynulliad.

“Fyse neb o’r Llywodraeth wedi ei chael hi ’da fi. Ma’ nhw’n buffoons. Ond ma’ Angela Burns yn siarad synnwyr, mae’n daclus yn y cyfraniad ma’ hi’n ei wneud. Ma’ hi’n codi safon y dadleuon.”

Aeth y tlws ‘Aelod i’w Gwylio’ i AC Canol De Cymru, Eluned Parrott

“Eluned Parrott – Pwy? Member to WatchMember to Find fysen i’n dweud,” meddai Rod Richards.

Trafodaeth ansafonol yn broblem

Mae diffyg safon yn nhrafodaethau’r Cynulliad yn broblem fawr,  yn ôl Rod Richards.

“Ma’ diffyg gwaith ymchwil yn y Cynulliad, does dim gwaith caib a rhaw yn cael ei wneud,” meddai. “Fi’n siwr bod rhan fwya’ nhw’n cael eu barn wrth ddarllen y Western Mail!”

Roedd hefyd yn beirniadu’r modd y dweiswyd y gwleidyddion ar gyfer y gwobrau – gan gynnwys rhoi gwobr Aelod Seneddol y Flwyddyn i Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.

“O beth fi’n deall, cafodd Cheryl Gillan ei dewis am ei chyfraniad i ddatganoli – bod hi’n ‘well na’r disgwyl o ystyried ei bod hi’n Dori’ – pa fath o wobr yw hynny?”

Ond mae’n cyfaddef nad oes “amser ’da fi i Cheryl Gillan ta beth… Mae’n hopeless.”

Ond mae’r Ceidwadwr yn cytuno gyda dewis y beirniaid ar Ymgyrchydd y Flwyddyn – gwobr a gipiwyd gan Aelod Seneddol Llafur yn y Rhondda, Chris Bryant, am ei ymgyrch yn erbyn hacio ffonau a gweithgareddau’r News of the World.

“Fi yn cytuno gyda hwna, wna’th e gwaith ’da fyna,” meddai Rod Richards.

Yr enillywr

Dyma restr yr enillwyr yng Ngwobrau Gwleidyddol y Flwyddyn, 2011, gafodd eu noddi gan ITV Cymru:

Gwelidydd y Flwyddyn: Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews

Aelod Seneddol y Flwyddyn: Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan

Aelod Cynulliad y Flwyddyn: AC Arfon, Alun Ffred Jones

Ymgyrchydd y Flwyddyn: AS Rhondda, Chris Bryant

Aelod i’w Gwylio: AC Canol De Cymru, Eluned Parrott

Gwleidydd Lleol y Flwyddyn: Arweinydd Cyngor Castell Nedd Port Talbot, Alun Thomas

Cyfraniad Oes: Yr Arglwydd Morris o Aberafan