Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth bandio ar gyfer ysgolion uwchradd ar draws Cymru heddiw.

Mae’r bandio – sydd wedi profi’n ddadleuol iawn gydag undebau athrawon – yn gosod ysgolion yn ôl bandiau ar sail perfformiad.

Y lefel orau yw Band 1, tra bod Band 5 ar waelod y tabl, ac yn arwydd bod angen gwella perfformiad yr ysgol.

Mae’r Llywodraeth wedi rhannu’r ysgolion i’w bandiau priodol ar sail perfformiad disgyblion 15 ac 16 oed mewn arholiadau, a’u lefelau presenoldeb. Ond mae’r Llywodraeth hefyd yn dweud fod lefelau tlodi wedi eu hystyried wrth gategoreiddio’r ysgolion.

Mae’r Llywodraeth yn dweud fod yr ystyriaethau wrth fandio ysgolion yn adlewyrchu eu blaenoriaethau wrth wella addysg yng Nghymru, sef gwella llythrennedd, rhifedd a phresenoldeb, a lleihau effaith cefndiroedd difreintiedig ar werth yr addysg.

Mae’r Llywodraeth yn mynnu y bydd y broses yn helpu awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion sydd angen help, a’u gwneud yn fwy effeithlon – gydag annogaeth i’r ysgolion gorau rannu eu harferion da gyda’r rhai sydd angen gwella.

Wrth wneud y cyhoeddiad heddiw, dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, fod bandio ysgolion yn “ganolog” i gynlluniau’r Llywodraeth i wella ysgolion Cymru.

“Er mwyn i ni godi safonau yn gyffredinol yng Nghymru, rhaid i ni wybod sut y mae ein hysgolion yn perfformio,” meddai.

Pwysleisiodd nad proses ar gyfer “gosod labeli ar ysgolion nac ar gyfer codi cywilydd arnynt mohoni, ac nid llunio tablau cynghrair bras yw’r nod ychwaith.

“Yn hytrach, mae’n rhannu ysgolion yn grwpiau er mwyn nodi pa rai y mae angen ein cefnogaeth ni arnyn nhw a pha rai y gallwn ni ddysgu wrthyn nhw,” meddai.

Ond mae’r cynlluniau wedi cael eu beirniadu gan undebau a’r gwrthbleidiau.

Y bore ’ma dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas, ei fod yn “pryderu’n fawr” fod bandio ysgolion ar fin “ailadrodd y camgymeriad o dablau cynghrair – gan danseilio ysgolion wrth wneud iddynt gystadlu yn erbyn ei gilydd a chreu dirywiad parhaol.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld y llywodraeth, dim y farchnad, yn gweithredu er mwyn gyrru gwelliannau mewn ysgolion,” meddai.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad fod opsiynau eraill, gwell er mwyn cyrraedd y nod y mae’r Llywodraeth wedi ei osod.

“Er mwyn sicrhau fod gan rieni fynediad i’r wybodaeth sydd ei angen arnynt ar berfformiad ysgolion, mae Plaid Cymru eisiau gweld datblygiad system o adroddiadau blynyddol ac ymchwiliad i asesu a ddylai Estyn gynnal hapwiriadau fel modd o wella safonau yn gyffredinol,” meddai.

Gallwch weld tabl o’r ysgolion sydd wedi eu bandio ar wefan y Llywodraeth, drwy ddilyn y ddolen isod:

http://cymru.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/raisingstandards/schoolbanding/secondary/?lang=cy