Barbara O'Sullivan
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ynglŷn â dynes o Merthyr Tudful sydd wedi mynd ar goll.

Mae Barbara O’Sullivan, 59 oed, heb ei gweld ers ddydd Gwener, 28 Ionawr.

Cafodd ei gweld yn gadael ei chartref yn Merthyr Tudful.

Dywedodd yr heddlu ei bod hi’n ddynes croenwyn sy’n siarad ag acen Saesnig ac mae ganddi wallt hyd at ei hysgwyddau.

Y tro diwethaf iddi gael ei gweld roedd yn gwisgo jîns du, cot mawr du, plimsols du neu fŵts steil Dr Martins.

Mae’r Heddlu’n credu y gallai fod wedi gadael ardal Heddlu De Cymru ac y gallai fod ym Mryste neu Lundain erbyn hyn.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Gorsaf Heddlu Merthyr ar 101.