Peter Black
Mae llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud y bydd yn cefnogi  ymgyrch gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i geisio datganoli pwerau darlledu i Gymru.

Eisoes, mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud mai’r hyn sydd angen ei wneud yw “datganoli cyfrifoldeb fel y gallwn ni greu strwythur cryf Cymreig i ddarlledu a fydd yn rhoi blaenoriaeth i’n cymunedau.”

Fe ddywedodd llefarydd treftadaeth y Democratiaid Rhyddfrydol Yng Nghymru Peter Black bod problemau diweddar gyda S4C a’r penderfyniad gan Lywodraeth y DU i newid y ffordd y mae’r sianel yn cael ei gyllido “wedi amlygu diffyg democrataidd mawr yng Nghymru”.

“Ni chafwyd unrhyw graffu priodol o ddarlledwyr yng Nghymru nac o’r fframwaith polisi maen nhw’n gweithredu o’i fewn,” meddai.

Hefyd, mae’n dadlau bod angen “mynd i’r afael” â ffactorau fel darparu rhaglenni Cymraeg ar orsafoedd radio prif ffrwd a ​​thrwyddedau radio cymunedol.

“Ni fydd datganoli pwerau dros ddarlledu yn ateb yr holl broblemau a wynebir gan y cyfryngau Cymraeg, ond bydd yn galluogi’r Cynulliad i gael mwy o ddylanwad dros y cyfeiriad polisi yn ogystal â  gwella craffu sefydliadau Cymreig fel S4C. Am y rhesymau hyn, rwyf yn hapus i ymuno ag ymgyrch Cymdeithas. ”