Wylfa
Mae Horizon Nuclear Power yr wythnos hon wedi cyhoeddi ei ddatganiad o ymgynghori cymunedol ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd arfaethedig newydd yn Wylfa ar Ynys Môn.

Mae Horizon Nuclear Power Cyf yn fenter ar y cyd a sefydlwyd yn 2009 gan E.ON UK ac RWE npower. Mae’r cwmni’n datblygu cynigion ar gyfer gorsafoedd niwclear yn Wylfa ar Ynys Môn ac  Oldbury-on-Severn yn Swydd Gaerloyw.

Yn ol Horizon, mae’r datganiad “yn garreg filltir bwysig yn y broses gynllunio gan ei fod yn amlinellu sut bydd Horizon yn ymgynghori’n ffurfiol gyda phobl leol am ei gynigion ynglŷn â gorsaf bŵer  newydd Wylfa B.”

Mae’n rhoi golwg gyffredinol o sut a pham y bydd Horizon yn ymgynghori ac mae ‘Wylfa – Dogfen Gefndir yr Ymgynghoriad Cymunedol’ yn ategu’r Datganiad o Ymgynghoriad drwy roi rhagor o wybodaeth a manylion am y broses ymgynghori.

Dywedodd Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu Horizon Nuclear Power ei fod yn annog “cymaint o bobl â phosib i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a fydd yn dechrau yn gynnar yn 2012.”

“Er mwyn hwyluso hynny, rydym yn cynllunio proses bellgyrhaeddol sy’n cynnig amrywiol ffyrdd y gall pobl ddysgu mwy am ein cynigion a rhoi eu hadborth.”

Gellir gweld y SOCC a’r Ddogfen Gefndir ar wefan Horizon: www.horizonnuclearpower.com