Fe fydd Merched y Wawr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Achub y Plant yn gofyn i gant a hanner o ferched amlycaf Cymru roi esgidiau er mwyn codi arian at elusen.
Sodlau’n Siarad yw teitl ymgyrch arbennig sy’n cael ei lansio’r wythnos hon ac a fydd yn cyrraedd pen y daith gydag arwerthiant ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
“Achub y Plant yw un o elusennau Merched y Wawr eleni, ac rydym ni’n chwilio am ffyrdd newydd a chyffrous o godi ymwybyddiaeth ac arian wrth ymgyrchu ar ran ein helusennau bob blwyddyn,” meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr.
Bwriad ymgyrch Sodlau’n Siarad yw annog merched amlwg Cymru, neu’r rheini sydd â chysylltiad â Chymru, i roi pâr o esgidiau i’r ymgyrch er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen.
Angharad, Heledd a Beti…
“Mae nifer o ferched amlwg Cymru, gan gynnwys Angharad Mair, Heledd Cynwal, Beti George a Nia Roberts, eisoes wedi addo pâr o esgidiau ar gyfer yr arwerthiant, a’r gobaith yw y bydd llawer mwy yn ymateb i’n cais dros yr wythnosau nesaf,” meddai Tegwen Morris.
“Rydym ni fel Eisteddfod yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio gyda Merched y Wawr ac Achub y Plant ar yr ymgyrch hon,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
“Mae’n gyfle hefyd i ni fel sefydliad godi ymwybyddiaeth am ein hymgyrch Dathlu 150, gan ein bod yn gofyn i’r merched i gyd gynnwys eu hatgofion personol am yr Eisteddfod Genedlaethol drwy’r blynyddoedd, gan ein helpu ni i ychwanegu at ein harchif.”
Arddangosfa
Bydd yr Eisteddfod yn cynnal arddangosfa o’r esgidiau ar Faes yr Eisteddfod eleni ac yn cyhoeddi lluniau a manylion yr esgidiau cyn yr arwerthiant.
Dywedodd Jessica Evans, Swyddog Codi Arian Cymru elusen Achub y Plant fod un pâr o sgidiau sy’n gwerthu am £5 yn gallu brechu hyd at dri phlentyn rhag iddynt ddal afiechydon angheuol.