Mae cynlluniau Cyngor Caerdydd i ad-drefnu ysgolion cynradd Yr Eglwys Newydd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth y Cynulliad.

Nod y cynllun yw lleihau nifer y llefydd gwag cyfrwng Saesneg yn yr ardal a chwrdd â’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg.

Cyhoeddodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews, heddiw ei fod wedi cytuno’n ffurfiol â’r cynnig.

Pasiwyd y mater i’r Gweinidog am benderfyniad ym mis Awst 2010 ar ôl i’r Cyngor dderbyn gwrthwynebiadau i’r newidiadau arfaethedig.

Y cynnig yw cau Ysgol Gynradd Eglwys Wen ac ysgol Gynradd Eglwys Newydd ac agor ysgol cyfrwng Saesneg sy’n derbyn 2.5 dosbarth y flwyddyn gyda meithrinfa yn eu lle, ym mis Medi 2012.

Caiff hyn ei wneud drwy fuddsoddi yn yr adeiladau a rennir ar hyn o bryd rhwng Ysgol Eglwys Wen ac Ysgol Melin Gruffudd.

Bydd Ysgol Melin Gruffudd yn symud i’r adeilad sydd ar hyn o bryd yn gartref i Ysgol Gynradd Eglwys Newydd, gyda buddsoddiad, fel ysgol cyfrwng Cymraeg sy’n derbyn 2 ddosbarth y flwyddyn gyda meithrinfa, o fis Medi 2012.

Cynnydd mewn galw

“Rydym yn hapus iawn gyda’r penderfyniad,” meddai’r Cynghorydd Freda Salway, yr Aelod Gweithredol dros Addysg yn Nghyngor Caerdydd.

“Bydd yn ein helpu i ateb y galw, sy’n cynyddu, ymhlith rhieni am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant, a darparu cyflenwad addysg cyfrwng Saesneg sy’n cyd-fynd yn well â’r galw am lefydd yn yr ardal.

“Yn ei hadeilad presennol, nid yw Ysgol Melin Gruffudd yn gallu cyrraedd y lefel hon o alw cynyddol ac, ar yr un pryd, mae yna ddwy ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn Yr Eglwys Newydd gyda dim ond digon o blant yn yr ardal ar gyfer un ysgol.

“Rydym yn ymdrechu i greu system addysg deg, lwyddiannus a dichonadwy yng Nghaerdydd sy’n rhoi’r cyfleoedd gorau i’n plant a’n pobl ifanc i gyflawni eu potensial.”