Simon Richardson
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â gwrthdrawiad lle cafodd y seiclwr Paralympaidd Simon Richradson ei anafu’n ddifrifol.

Dywed Heddlu De Cymry bod dyn 60 oed o’r Bontfaen ym Mro Morgannwg wedi ei gyhuddo o yrru’n beryglus, yfed a gyrru, a methu â aros ar ôl damwain.

Fe fydd yn mynd o flaen ynadon Y Barri ar 7 Rhagfyr.

Roedd Simon Richardson, 44, yn seiclo ar hyd yr A48 ger Penybont ar Ogwr ym mis Awst pan fu mewn gwrthdrawiad â fan.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn hofrennydd lle cafodd driniaeth i’w anafiadau.

Roedd y seiclwr o Borthcawl wedi gadael yr ysbyty ym mis Medi ond mae’n debyg y bydd yn cymryd hyd at dair blynedd iddo wella’n iawn.

Mae’n golygu na fydd yn gallu cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd yn Llundain 2012 ond mae wedi dweud y bydd yn ail-ddechrau seiclo.

Roedd Simon Richardson wedi cael MBE ar ôl iddo ennill dwy fedal aur ac un arian yng ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008.