Cynnyrch Tetra Pak
Mae cwmni wedi cadarnhau y bydd 150 o swyddi’n cael eu colli mewn ffatri yn Wrecsam.

Cyhoeddodd y cwmni rhyngwladol Tetra Pak ym mis Medi eu bod nhw’n ystyried gwneud toriadau yn y ffatri.

Mae’r cwmni yn gwneud cartonau er mwyn dal diodydd a bywyd hylifol. Dywedodd y cwmni mai cwymp mewn allforion oedd yn gyfrifol am y toriadau.

Mae tua 265 o bobol yn gweithio yn y ffatri ar hyn o bryd. Bydd 115 yn cadw eu swyddi er mwyn gweinyddu’r busnes ym Mhrydain ac Iwerddon.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn Lund, Sweden yn 1951.