Mae’r heddlu yn galw am lygaid dystion ar ôl i ddynes o Lanbedr pont Steffan farw yn dilyn gwrthdrawiad car.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 11.50am ddydd Mercher, ar yr A482 rhwng Felin-fach a Chiliau Aeron.
Gadawodd car VW Polo gwyrdd y ffordd a tharo coeden.
Fe fu farw’r ddynes oedd yn gyrru’r car yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn ddiweddarach.
Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ffonio PC 169 Atkinson o Uned Heddlu Ffyrdd Canolbarth Cymru ar 101.