Mae nifer o Gymry amlwg wedi arwyddo deiseb sydd yn galw ar y Llywodraeth i adalw’r Cynlluniau Datblygu Lleol er lles y Gymraeg.

Mae “pryder gwirioneddol” y bydd y cynlluniau yma yn arwain at ddatblygiadau tai anaddas, diangen oherwydd nad ydynt wedi eu seilio ar anghenion presennol y cymunedau, yn ol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ymysg y bobl sydd wedi llofnodi’r ddeiseb mae’r awduron Dewi Prysor, Catrin Dafydd, Angharad Blythe a Dr Mererid Hopwood, a’r cerddorion Geraint Lovgreen, Steve Eaves, Ceri Cunnington, Lleuwen Steffan a Gwyneth Glyn.

“Mae’n holl bwysig bod Llywodraeth y Cynulliad yn deall dyfnder y gwrthwynebiad i’r Cynlluniau Datblygu Lleol yma,” meddai Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Dydyn nhw ddim yn mynd i’r afael a’r problemau sydd yn wynebu cymunedau Cymru. Yn hytrach mae’n bosib iawn y byddant yn gwaethygu sefyllfa’r Gymraeg wrth i niferoedd anaddas o dai gael eu hadeiladu”.

Fe ddywedodd Alun Lenny, Cyngohrwr Tref yng Nghaerfyrddin, sydd yn arwain ymgyrch yn erbyn cynllun i ddatblygu 1,200 o dai yn y dref, nad oedd Tryweryn yn “ddim   o’i gymharu â’r dinistr y gallai’r Cynlluniau Datblygu Lleol wneud i gymunedau ar draws Cymru.”

“Yng nghefn gwlad Lloegr, mae ymgyrch gref yn cael ei hymladd ar hyn o bryd yn erbyn y fath gynlluniau,” meddai.

“Ond mae llawer mwy na chaeau gwyrdd yn y fantol yma yng Nghymru. Byddai codi miloedd o dai, nad oes eu hangen ar bobl leol, yn hyrwyddo mewnfudo ar raddfa hollol ddinistriol i natur ieithyddol a chymdeithasol sawl ardal.

“Bydd hi’n rhy hwyr protestio pan fydd y teirw dur yn symud i mewn, nawr yw’r amser i wrthwynebu – gan gynnwys y weithred syml hon o arwyddo’r ddeiseb ar-lein.”