Protestwyr Cymdeithas yr Iaith yn Swyddfeydd y BBC heddiw
Mae ymgyrchwyr iaith wedi meddiannu swyddfeydd y BBC yng Nghaerdydd.

Aeth yr ymgyrchwyr, gan gynnwys y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, mab Gwynfor Evans, a’r academydd Simon Brooks, i mewn i adeilad y BBC toc cyn 9am bore ma.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith wrth Golwg 360 eu bod nhw’n atal gweithwyr y BBC rhag mynd i mewn i’r adeilad. Doedd yr heddlu heb gyrraedd eto, medden nhw.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cyllideb S4C yn cael ei thorri 25% erbyn 2015 a’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb dros ariannu’r sianel yn cael ei drosglwyddo i ddwylo’r BBC.

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn cynnal ymgyrch yn annog pobol i beidio a thalu eu trwyddedi teledu i’r gorfforaeth.

“Penderfyniad Llywodraeth San Steffan oedd newid trefniadau ariannol S4C, nid y BBC,” meddai llefarydd ar ran BBC Cymru.

“Mae trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth San Steffan, S4C a’r BBC ac fe fydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

“Serch hynny, mae Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC wedi cytuno i gwrdd â Chymdeithas yr Iaith o fewn yr wythnosau nesaf.”

‘Annemocrataidd

Dywedodd y protestwyr eu bod nhw’n cyhuddo’r darlledwr o weithredu mewn modd “annemocrataidd” .

“Mae’r BBC yn ceisio gwthio cytundeb ar S4C cyn i ASau bleidleisio ar y mater – mae’n hollol annemocrataidd. Mae’n amser i’r BBC newid ei meddwl,” meddai Bethan Williams, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Fe gytunodd Llywodraeth San Steffan a’r BBC yn Llundain ar gynllun munud-olaf heb ymgynghori a neb o gymru. Gallai eu cyd-gynllwyn ladd y sianel os nad oes ganddon ni’r adnoddau i weld cynnwys cymraeg ar y teledu ac ar y we.

“Ar ôl 2015, does dim sicrwydd hyd yn oed y bydd unrhyw arian yn mynd i’r sianel o gwbl. Does dim angen edrych yn bellach na Gwasanaeth y Byd i weld beth gall ddigwydd i sianeli sydd ddim yn bwysig i’r BBC.”