Mae’r elusen blant amddifad, Barnardo’s, wedi galw am chwalu’r rhagfarn yn erbyn mabwysiadu plant gan gyplau hoyw a rhieni sengl.

Does dim lle i wahaniaethu, meddai pennaeth yr elusen yng Nghymru, sy’n dweud bod mwy na 50 o blant amddifad bob blwyddyn yn methu â dod o hyd i deulu.

Er hynny, o’r 230 o blant a gafodd eu mabwysiadu yng Nghymru yn ystod 2009-10, dim ond pump a aeth at bartneriaid o’r un rhyw, dim ond 15 at fam sengl a dim un o gwbl at dad sengl.

Mae’n rhaid i hynny newid, meddai Barnardo’s, wrth nodi dechrau’r Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol.

‘Rhagfarn’

Un broblem yw rhagfarn yn erbyn cyplau hoyw a theuluoedd un rhiant, meddai Cyfarwyddwraig Barnardo’s Cymru, Yvonne Rodgers, gan alw am drafodaeth agored am y pwnc.

“Mae’n rhaid herio’r syniad bod rhieni hoyw yn eilradd yn ogystal â’r rhagdybiaeth mai dim ond cyplau sy’n gallu mabwysiadu neu faethu plentyn,” meddai,

“Allwn ni ddim fforddio gwrthod darpar fabwysiadwyr gan ei fod yn lleihau’n sylweddol y siawns o ganfod cartrefi cariadus a sefydlog i’r plant sy’n aros am rai.”

Arolwg

Roedd arolwg gan yr elusen yn dangos fod bron un o bob tri o bobol gwledydd Prydain yn credu y byddai cwpl o’r un rhyw yn rhieni salach na phartneriaid confensiynol.

Ond mae’r elusen yn dweud bod angen gwrthwynebu’r agwedd honno.. Roedd 23% hefyd yn credu na fyddai dyn sengl yn gystal rhiant â mam sengl.

“Mae’n wirion a does dim tystiolaeth i awgrymu nad yw cwpl o’r un rhyw yr un mor alluog â chwpl heterorywiol i godi plentyn,” meddai Prif Weithredwr Barnardo’s trwy wledydd Prydain, Anne Marie Carrie.

Barn cwpl hoyw

Mae’r elusen yng Nghymru wedi cyhoeddi sylwadau gan ddau ddyn hoyw sydd ar fin cael eu derbyn i fabwysiadu plentyn yn y Gogledd.

“Dydyn ni ddim yn credu bod llawer o bobl yn gwybod fod cyplau o’r un rhyw yn gallu mabwysiadu, yn wir, doedden ni ddim 100% yn siŵr y gallen ni wneud,” medden nhw.

“Does dim byd na allwn ni ei gynnig i blentyn y byddai cwpl heterorywiol yn gallu ei roi. Wedi’r cyfan, cariad yw cariad ar ddiwedd y dydd.”

Llun: O wefan yr elusen