Cynhelir gwasanaeth coffa heddiw i dalu teyrnged i’r pedwar glöwr fu farw yng Nglofa Gleision ym mis Medi.

Mae hefyd yn cael ei gynnal er cof am Harry Patterson, bachgen bach pum oed a fu farw dan amodau trasig yn ystod yr un wythnos.

Ar Fedi 15 ger Pontardawe bu farw Phillip Hill, 45, Garry Jenkins, 39, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62, pan fu i dwnel yng Nglofa Gleision lenwi gyda dŵr.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng yr heddlu a’r Gweithgor Iechyd yn parhau i geisio canfod y rhesymau dros y ddamwain.

Bu farw Harry Patterson o’r Alltwen ar ôl dringo i mewn i gar ei deulu, a oedd wedi ei barcio ar lethr serth ger ei gartref.

Neidiodd allan wrth i’r car rowlio am yn ôl, gan ddioddef anafiadau difrifol. Credir ei fod wedi gollwng yr handbrêc.

Bydd y gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal yn Eglwys St Pedr ym Mhontardawe heddiw, dan arweiniad Archesgob Cymru y Dr Barry Morgan.

Hefyd mi fydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn annerch yno, ac Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan ac Aelodau Cynulliad a Seneddol lleol yn mynychu hefyd.

Bydd cynrychiolwyr yr holl wasanaethau brys a thîm achub glowyr yn bresennol.